Angen fersiwn argraffadwy o fap i ddilyn y daith gerdded hon?

Mae pentref Mallwyd mewn lleoliad strategol rhwng dau ddyffryn a dwy afon.Yn ôl yr ysgolheigion daw’r enw Mallwyd o’r gair ‘ma’, sef cae, ac unigolyn o’r enw Llwyd, ond mae’n bur debyg byddai pobl yn crynhoi yma, a’r enw gwreiddiol fyddai Maen Llwyd gan fod Cae Maen Llwyd yn ymyl y pentref, ond bellach aeth y safle’n anghof. Datblygodd y pentref gyda Sant Tydecho yn sefydlu cell o eglwys yma, a gan ei fod ar lwybr rhwng y Gogledd a’r De, Dwyrain a Gorllewin mae’n fan gorffwys cyn mentro dros Fwlch y Fedwen i gyfeiriad y Trallwng, a Bwlch yr Oerddrws i Ddolgellau, a Bwlch y Groes i Lanuwchllyn. Yn 1400 yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr, daeth Harri’r 4ydd Brenin Lloegr a’i fyddin drwy Ogledd Cymru ac i lawr trwy Fallwyd ar ei ffordd i’r Amwythig i geisio ei ddal. Roedd yn llwybr hefyd i fyddin Harri Tudur ar ei ffordd i Bosworth tua 1485 o Benfro. Tyfodd y pentref yn sgil dyfodiad y ffordd tyrpeg gyda ffermdy Cross Foxes a ddaeth yn ddiweddarach yn Peniarth, yna Bury ac yn ddiweddarach yn Brigands.
Mae Mallwyd a Chwm Dugoed yn enwog am Wylliaid Cochion Mawddwy, a gafodd enw fel drwgweithredwyr a fyddai’n dwyn a lladd yn ystod y canol oesoedd. Yn ol traddodiad daliwyd a chrogwyd 80 o’r gwylliaid, rhai’n byw’n wyllt, eraill yn f n uchelwyr lleol; a phan lofruddiwyd y Barwn Lewis Owen o Ddolgellau yn 1555, a gafodd orchymyn i’w difa, aeth yr awdurdodau wedyn i’w dal a’u crogi ac ni chlywyd cymaint amdanynt wedyn.

Yn 1604 daeth rheithor newydd i Fallwyd sef Dr. John Davies. Y gŵr llenyddol mwyaf hynod i wasanaethu pobl Mawddwy yn eglwysig, yr oedd John Davies yn ŵr hael a edrychai ar ôl lles ei blwyfolion. Bu’n gyfrifol am adeiladu ar ei gost ei hun am a wyddwn dair pont dros afonydd Dyfi a Chleifion, y rheithordy a’r clochdy, yn ogystal â nifer o welliannau eraill i eglwys Mallwyd. Dechreuodd hefyd ysgol yn yr eglwys.

Gadawodd swm o 50 punt yn ei ewyllys at ryddhad y tlodion, yr hwn a ddefnyddid i brynu dôl 6 erw, a chae bychan o lechwedd Camlan, yr hwn a ddosrannwyd ar rent ymysg y rhai mewn angen, arfer sydd yn parhau hyd heddiw! Mae’n cael ei gofio yn bennaf yn genedlaethol am ei waith cyfieithu, ac yn arbennig am adolygu cyfieithiad o Feibl yr Esgob William Morgan a welodd olau dydd yn 1620 ac a fu’n sail i gynnal yr Iaith Gymraeg hyd heddiw.

Mallwyd, Eglwys, Tafarn, Dr John Davies
Tŷ Uchaf – enw gwreiddiol – Craig y Bryniau. Cwm Cewydd ar y chwith
Penrhiwcul

Bu Penrhiwcul gyferbyn a chi unwaith yn dafarn, ac yng Nghae Meddw (y cae bach ochr isaf i’r ffordd byddai’r yfwyr yn mynd i gysgu, a sobri!) Gyda llaw nid cul oedd yr enw ar y rhiw serth sydd yn dringo o Bont
y Byllfa, ond cil, sef cilyn i sychu ŷd.

Yn ffermdy hynafol Dugoed Mawr ble canfuwyd pladuriau yn y simnai fawr i gadw gwylliaid neu ymosodwyr o’r cartref byddai’r gŵr diwylliedig, Ifan Tudur Owen yn barddoni, prin hanner can mlynedd wedi cyflafan Collfryn.

Braich Llwyd – Gwylliaid – saethu cosyn
Hen enw Tŷ uchaf Mallwyd oedd Craig y Bryniau. Oddi yma gellir gweld fyny am bentref hynafol Dinas Mawddwy, ac i lawr y dyffryn am Aberangell. Mae’r afon Ddyfi’n dolennu drwy waddodion rhewlifol, a dynodwyd y dyffryn o Fallwyd i Ddinas Mawddwy yn Safle o Ddynodiad Diddordeb Gwyddonol Arbennig (DDGA) oherwydd y nodwedd hyn.

Rydych yn sefyll ger ffermdy Tŷ Coch. Tua chanrif a hanner yn ôl yr oedd teulu Talyglannau (y fferm nesaf fyny’r cwm) mor niferus fel y codwyd Tŷ Coch i gartrefu rhai ohonynt.

Ochr draw i’r cwm roedd Nant yr Ehedydd yn siop, a’r hen adeilad ger yr afon yn ffatri wlan, yr oedd y cwm yn llawer mwy poblog yr adeg hynny, teuluoedd niferus ym mhob tyddyn.

Hefyd ar y mynydd gyferbyn mae Ffridd y Groes a enwyd i goffau llofruddiaeth y Barwn Lewis Owen gan Wylliaid Cochion Mawddwy. Rhwng y coed a Nant yr Ehedydd mae Llidiart y Barwn lle, yn 1555 arhosai dynion arfog i’r Barwn ddychwelyd o’r Trallwng.

Nid gwehilion cymdeithas oeddynt, ond yn uchelwyr; pedwar ohonynt ‐ John Goch ap Gruffudd ap Huw, Robert ap Rhys ap Hywel, Siencyn ab Einion, Dafydd Gwyn ap Gruffudd ap Huw ‐ o Fawddwy. Bu dial ar y drwgweithredwyr, a’r rhai fu’n eu cysgodi; yn cynnwys un ferch feichiog. Ymhen blynyddoed tadogwyd pob gweithred anllad ar y Gwylliaid.

Enw un o gaeau Braichllwyd yw Cae Ann, yno, yn ôl traddodiad fe laddwyd Ann, morwyn Gelliddolen, tra’n cerdded adref o’r briffordd ger Bont Nant yr Ehedydd gyda bwa a saeth.

Foty Fach – llety Porthmyn, cornel cadw gwyddau, enwau – Nant Carrreg yr Hydd, Rhidys Llin Gwaun

Mae stori arall am y Gwylliaid yn torheulo o flaen tŷ Braich Llwyd tra’r oedd teulu Talyglannau, ochr draw i’r cwm yn cynaeafu eu gwair. Amser cinio daeth y forwyn a chosyn caws i’r cae gwair; broliodd un o’r Gwylliaid y gallai saethu’r cosyn ar draws y cwm gyda saeth, a dyna, er mawr fraw i deulu Talyglannau, a wnaeth.

Y Felin / Cwm Cewydd / Capel Salem.

Cyn troi lawr am y bont fe welwch dwy garreg, dyma Bedd y Gŵr. Ar lafar bachgen a gwympodd ar Darren Cwm Bachgen (y graig a welwch ar y dde yn y cwm sy’n arwain am Fawddwy) a gladdwyd yma.

Ond canrif a hanner yn ôl dyma fedd Gwilym, a laddwyd gan Wylliaid Cochion Mawddwy.

Ar y llechwedd gwelir olion ceir llusg yn rhibedi; byddent yn cario’r mawn i Fawddwy a Chwm Cewydd.

Enw’r bwlch i Fawddwy yw Bwlch Safn Ast, lle claddwyd un o dri o gewri Cymru. Enw’r cut to sinc yw Hafoty’r Fuches Las ‐ enw hyfryd

Ceseiliau – golygfa

Yma o ben Ceseiliau ceir golwg arbennig o Fawddwy. Uwchben pentref Dinas Mawddwy cwyd Foel Benddin, lle bu castell gynt, a chawn gip ar Gwm Cywarch cyn codi’n golygon eto i Foel yr Hydd o’n blaenau. Mae
Mawddwy yma yn hynod o serth a chul, a rhai o’r ffermdai fel Llanerch wedi eu hadeladu cyn 1600.

Castell – ysbryd.

Yma gynt bu hen ŵr farw, gan adael ei eiddo i berthynas, ond cyn ei gladdu newidiodd y perthynas yr ewyllys gan ddefnyddio llaw marw yr hen ŵr i arwyddo’r ewyllys. Aflonyddodd ysbryd yr hen ŵr ar y teulu am
genedlaethau. Castell y Blaidd oedd yr enw llawn, ni fu erioed castell yma.

Dyma gymuned fach gyda melin, a chyn gapel bach.

Pont Cleifion Dr. John Davies
Rhydio’r cleifion – goets fawr llwybr o’r gylchfan i bont Cleifion

Ar yr A470 edrychwch dros y bont dros yr afon Cleifion ac fe welwch oddi tani hen bont a gododd y rheithor Dr. John Davies Mallwyd yn 1637. Yn ôl y son mae y llythrennau J D mewn cerrig gwynion ar y bont. Cyn hyn rhydio’r afon yr oedd pawb yn ei wneud gan fod yr afon yn fas yn is i lawr. Mae hanes sgarmes ger y bont adeg y Rhyfel Cartref rhwng Cromwell a’r Brenin pan wnaeth trigolion Mawddwy ymgynnull ar lan ogleddol y Cleifion i wrthsefyll milwyr y Pengryniaid rhag croesi. Tywalltwyd gwaed a chipiwyd gwystl. Daeth dywediad am y digwyddiad ar ffurf pennill –  ‘Cryman am wddw Cromwell’ .

Yn y rhyd yma yr oedd y goets fawr o Amwythig am Ddolgellau ac Aberystwyth yn mynd, ac roedd son bod pont John Davies yn peri ofn ar deithwyr gan ei bod yn uchel ac yn gul. Parhaodd y bont ar ddefnydd tan yr 1840’au pan godwyd pont newydd. Dymchwelwyd y bont honno a chodwyd y bont fodern sy’n croesi heddiw.