Angen fersiwn argraffadwy o fap i ddilyn y daith gerdded hon?

Llwybr Cwm Cerist

3.5 Milltir / 6Km / 1.5 Awr

Mae hwn yn llwybr hawdd ar dir gwastad yn bennaf ar hyd y ddwy ochr i Afon Cerist, sy’n rhedeg i gyfeiriad Dolgellau o Ddinas Mawddwy.

Er bod y dirwedd yn hawdd ar y cyfan, mae rhyd i’w chroesi a all fod yn ddwfn i’r pigwrn, ac weithiau’n ddyfnach, ar ôl glaw.

Gellir dilyn y llwybr hefyd gan ddefnyddio’r Map Arolwg Ordnans hwn.

Disgrifir y llwybr mewn cyfeiriad clocwedd ond mae’r llwybr hefyd wedi’i arwyddo i’r cyfeiriad arall. Ar adeg ysgrifennu hyn ym mis Mawrth 2023 nid yw rhai marcwyr llwybr wedi’u hychwanegu eto. Nodir hyn yn y disgrifiad isod.

Parcio a Dechrau

Parciwch ym maes parcio Dinas Mawddwy, gyferbyn â thafarn y Llew Coch. Mae toiledau cyhoeddus wrth y fynedfa i’r maes parcio.

Ar gyfer rhan gyntaf y daith mae dau opsiwn. Nid yw’r naill na’r llall wedi’u llofnodi ar hyn o bryd:

a) Trwy dir Plas ddymchwelwyd Dinas Mawddwy:

Cerddwch i’r man chwarae i blant yng nghefn y maes parcio a chymerwch y llwybr heb arwyddion yn syth i’r chwith ohono. Dilynwch y llwybr drwy giât i gerddwyr, i ymuno â dreif lydan. Dilynwch y dreif heibio i gatiau pren yr holl ffordd at giatiau mawr porthdy Dôl Hir.

b) Ar hyd Stryd Wylecop a’r A470:

Cerddwch allan o’r maes parcio tuag at y Toiledau a’r Llew Coch ac yna trowch i’r dde (i fyny’r allt) ar Stryd Wylecop. Ar yr A 470, trowch i’r dde a cherdded ar hyd yr cyfyldon am 750m i Dôl Hir.

 

Lleoedd o ddidordeb:

  1. Yr enwocaf o ffynhonnau iachaol Mawddwy oedd Ffynnon Wen, a leolir ar glwt o dir o’r enw ‘Cae Gwyn’, rhwng y Plas a mynedfa Dolhir yn y Dinas ger y tai pren. Dywedodd Thomas Davies yn ei lyfr Hanes Dinas Mawddwy….,1893 ei bod ‘wedi ei hamgylchynnu a cherrig fflags a thua llathen sgwâr o faint.’ Ystyrid hi mor bwysig at drin clefydau y llygaid fel bod hanes am farchogion o cyn belled a Morgannwg yn Ne Cymru yn teithio yno, gan obeithio am wellhad.
  2. Dyma Borth Gorllewin Plas Buckley a’r giatiau gwreiddiol yn parhau i’w gweld. Credwyd fod ysbryd yn ardal Dôl Hir. Un tro yr oedd gwraig yn mynd i ymweld a thŷ yn y cyffiniau pan welodd rhywun yn cerdded o’i blaen. Brasgamodd i ddal i fynnu a’r person ond nid oedd damaid yn nes ato, ac yn sydyn fe’i gwelodd yn troi i gyfeiriad yr afon a diflannu.
    Pan gyrhaeddodd pen ei siwrnai a dweud yr hanes yno dywedwyd wrthi ei bod wedi gweld ysbryd gwraig ifanc a foddodd ei hun yn afon Cerist.Mae’n rhaid fod y digwyddiad hyn gryn amser yn ôl, gan nad oes dim hanes amdano yn y papurau lleol cynharaf sydd yn dyddio o chwarter olaf yr 19fed ganrif. Byddai staen coch i’w weld ar un o’r grisiau yn Nol Hir a pha mor aml y golchwyd ef i ffwrdd byddai’n dychwelyd, hyd
    yn oed ar ôl mynd cyn belled a newid y darn pren, ond nid oes llofruddiaeth na hunanladdiad wedi cymryd lle yno hyd y gwyddir.
Dol Hir i Ddolobran

O Ddol Hir trowch i’r dde a cherdded 200m ar hyd yr A470 ac yna trowch i’r dde i lawr lôn darmac. Hon oedd yr hen ffordd fawr hyd y 1920au; mae marciwr milltir haearn ar y dde, 60m ar hyd y lôn.

Dilynwch y lôn am 300m at gyffordd mewn pant, a fu unwaith yn safle Melin wlân Cerist. Cadwch i’r chwith yma a pharhau am 700m pellach, gan fynd heibio i dai Fachell a Hermon, i ailymuno â’r A470.

Mae’n bosibl haneru hyd y llwybr trwy droi i’r dde wrth y gyffordd yn y pant. Dilynwch y lôn i dŷ Pentre Bach a dilynwch y set olaf o gyfarwyddiadau isod.

 

3 Melin ddŵr Cerist a Cwm Maesglase a phistyll yn y cefndir.

Mae ardal Mawddwy yn hynod o ffodus o ddaearyddiaeth ble roedd nentydd yn llifo o fynyddoedd uchel ac yn gyfle i droi melinau. Mae sawl melin yn yr ardal wedi bod yn troi i falu grawn i flawd ac i bannu gwlân. Y melinydd o 1865 hyd at 1891 oedd William Roberts, yr olaf i falu yno oedd Lewis Jones, a gymerodd hi ar brydles o 7 mlynedd yn 1909.

Disgrifiwyd y felin ar ddydd ocsiwn Stad Dinas fel ‘adeilad deulawr o gerrig a tho o lechi, dau bâr o gerrig, odyn gymharol newydd, tri thwlc mochyn, beudy, dau dŷ gwair, a hen fwthyn’. Yr oedd y cyfan ychydig dros hanner erw o dir. Chwalwyd y cyfan yn y 1920au wrth unioni’r ffordd, a oedd pryd hynny yn mynd heibio i’r Fachell ac ysgoldy Hermon. Bu’r Fachell yn dafarn i borthmyn ar un adeg, ac yn ddiweddarach yn siop, fel y mae’r enw yn awgrymu, sef lle i fachu’ yr anifeiliaid.

Cloddiwyd wrn pridd ac ynddi weddillion dynol o gae cyfagos rhywbryd yn nechrau’r 1800au,ond nid oes gwybodaeth i ble yr aeth, a chredir i’r cyfan gael ei dinistrio. Pan ddaeth technoleg tyrbin ‘Pelton’ i gynhyrchu trydan yn rhesymol ei bris gwnaeth un o drigolion Mawddwy, Rowland Evans fanteisio ar y gallu o’i gynhyrchu’n lleol, a chan fod nifer o nentydd a llif cyflym ynddynt yn gyfleus yr oedd digonedd o ddewis. Penderfynodd mai nant Maesglase, a oedd cyn hyn wedi bod yn troi Melin Cerist am ganrifoedd, oedd y safle gorau, a chododd sied sinc ger yr hen felin ychydig fyny’r nant i gymryd y tyrbin. Yn 1924 daeth goleuni i bentref Dinas, a chwmni ‘Rollie’ oedd y cyntaf o’r rhai lleol i oleuo tai ym Mawddwy. Erbyn y tridegau yr oedd cwmni ‘Rollie’ yn goleuo pentref Dinas Mawddwy a chyn belled â Chywarch a Minllyn.

 

4 Saif ysgoldy Hermon ar fin yr hen ffordd.

Codwyd yr ysgoldy yn 1840 am gost o £52, ac yno y cafodd gartref parhaol, hyd nes y caewyd y drysau am y tro olaf dros ganrif a degawd yn ddiweddarach. Mae’n gartref i deulu lleol bellach a cyn chwaraewraig rygbi dros Gymru. Cafodd yr ysgol Sul amser caled i sefydlu yng Ngherist, a symud o le i le y bu ei hanes yn y dyddiau cynnar, yn ddibynnol ar haelioni rhyw amaethwr ac ysgubor wag yn yr haf, a chegin gynnes wedi i’r cynhaeaf lanw yr ysguboriau.

Symudodd yr ysgoldy o Lwyn Celyn i Fuarth Glas, ac yna i Ddolobran, ond yn aml byddai’r meistri tir yn pwyso ar y tenantiaid pan welwyd eu bod yn cefnogi Anghydffurfiaeth.

Dolobran i gyfford T ger Bentre Bach

Ar ôl cyrraedd yr A470, trowch i’r dde a cherdded ar hyd yr ymyl am 100m nes cyrraedd lôn darmac ar y dde. Trowch i’r dde ar hyd y lôn a dilyn y lôn am 300m, yna trowch i’r dde i drac sydd wedi’i arwyddo am Bryn Cerist a Braich Melyn. Dilynwch y trac hwn drwy sawl giât a rhyd i ailymuno â lôn darmac. Trowch i’r chwith i’r lôn, ewch drwy giât, a   dilynwch hi am 1km i gyffordd T.

 

5 Ffermdy a Ffatri Dolobran

Tu draw i’r afon y mae ffermdy hynafol Dolobran a phont Hywel yn cysylltu’r ddwy ochr. Pont breifat oedd hi nes i’r Cyngor Plwyf ei chymryd drosodd er budd y trigolion yn 1905. Efallai mai o ‘Dol-Abram’ y daw’r enw, ond y mae tarddiad hefyd o ‘Ebran’, lle i borthi, ac o gofio cysylltiad y porthmyn a’r Fachell, fe all unrhyw un o’r ddau fod yn gywir.

Yr oedd teulu o Grynwyr yn byw yno nes iddynt ymfudo i’r Amerig gyda William Penn. Aeth eraill o deulu Dolobran hefyd i’r Amerig yn yr 19 ganrif. Wrth yr afon gwelir adfeilion y ‘Ffatri Newydd’ a godwyd tua 1845 ar safle hen bandy cynharach. Ni chafodd lawer o lwyddiant er mae hon oedd yr unig ffatri wlân yng Ngherist, ond yr oedd diffyg buddsoddiad, a gorfod cystadlu a ffatrïoedd a pheiriannau gwell mewn rhannau eraill o Feirion yn ei erbyn.

Daeth y cyfan i ben erbyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac er i’r adeilad gael ei ddefnyddio fel stordy am gyfnod, buan iawn aeth a’i ben iddo. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw perchnogion y fferm erbyn hyn.

Pentre Bach i'r Dinas

Wrth y gyffordd T trowch i’r chwith gan fynd heibio i’r tŷ Pentre Bach. Parhewch ar y llwybr llydan drwy’r coed.

600m heibio Pentre Bach mae’r coed ar y ddwy ochr yn gorffen, ac mae llwybr troed yn arwain yn groeslinol i’r dde tuag at faes carafanau islaw. Dilynwch y llwybr troed hwn, gan ddilyn taith gerdded Cwm Cerist rowndeli.

Hanner ffordd i lawr at y carafanau mae mwy o gryneli llwybr troed yn pwyntio ychydig i’r chwith ac i fyny’r allt. Yma, mae’r hawl tramwy yn mynd i fyny at y ffens 50m i ffwrdd, yn croesi o dan y ffens ac yna’n disgyn yn ôl i’r llwybr llydan rydych chi wedi bod yn eich dilyn.

Pan yn ôl ar y trac, anelwch am giât fferm ar waelod y cae. Ewch drwy’r giât ac yna, wrth y ffordd, trowch i’r dde. Dilynwch hi am 300m yn ôl i’r maes parcio.

 

6 Pentre Bach

O gyfnod rhwng yr 17eg i ddechrau’r 19eg ganrif, cynyddodd poblogaeth Cymru ynghyd â thlodi gan arwain i gyfres o ddigwyddiadau o sgwatio (ymgartrefu heb ganiatâd) ar ddarnau o dir yn rhannau mwyaf gwledig Cymru. Cododd yr arfer oherwydd pwysau’r diffyg tir yn dilyn cau tiroedd comin, a’r rhentu a godwyd gan dirfeddianwyr.

Dyma yw sail Pentre Bach. Credai rhai pobl pe bai modd adeiladu tŷ ar dir comin mewn un noson yn unig, yna byddai’r tir hynny’n eiddo iddynt. Ceir amrywiadau i’r traddodiad hwn: y prawf i weld os oedd y tŷ wedi’i orffen oedd os oedd tân ar yr aelwyd erbyn bore trannoeth; gallai’r trigolion ehangu ar eu tir trwy daflu bwyell o bedwar cornel y tŷ. Pa le bynnag y byddai’r bwyell yn disgyn, dyma fyddai eu tir.

Nid oedd gan tŷ unnos fel hwn statws yng nghyfraith Lloegr. Efallai yr oedd gan y gred chwedlonol tŷ unnos yma rywfaint o ddylanwad ar arferion pobl werin i sgwatio ar dir comin fel gallent dwyllo ac ennill dros yr awdurdodau heb dalu rhent.

 

7 Parc – cartref gweinidog olaf yn pregethu heb drwydded

Dyma gartref William Hughes y gweinidog olaf i bregethu heb drwydded dros anghydffurfiaeth adeg y diwygiad. Daeth i Ddinas Mawddwy yn 1797 a bu’n weinidog i’r Annibynwyr yn yr ardal tan ei farw yn 1826 yn 65 oed. Mae ganddo ddau emyn yn y Caniedydd, ond dim un yng Nghaneuon Ffydd. Fo ydi awdur yr emyn un pennill isod.

Arglwydd, paid â gadael imi/
ymfodloni heb y gwir/
lamp heb olew a ddiffodda/
yn y treial mawr cyn hir./
Rho im olew/
yn y llestr gyda’m lamp.

Cymerwyd rhan helaeth o diroedd Parc a’r adeilad ar gyfer gerddi Plas yn Dinas yn yr 1850au. Dim ond llwyn o bren bocs hynafol wrth weddillion talcen yr adeilad a choed ywen uwchben y parc carafannau ger Ty’n Pwll sydd yn nodi ei leoliad.

 

8 Rhiw Landrin

Ar waelod y rhiw ger y pentref roedd melin / pandy neu ffatri wlân Dolybont. Yn ddiweddarach adeg cyfnod Plas yn Dinas y Buckleys yn yr 1860au troswyd y felin yn olchdy’r Plas gan ddefnyddio’r ffos oedd yn cyflenwi’r felin gynt.
Gelwir y rhiw yma ers hynny yn Rhiw londri / landri / a bellach landrin (laundry)