Angen fersiwn argraffadwy o fap i ddilyn y daith gerdded hon?
Mae Dinas Mawddwy yn hen faenoriaeth a fu’n cynnal ffeiriau dros y canrifoedd ac roedd cadw cyfraith a threfn yn bwysig. Ger y fan honno yr oedd carchar Dinas Mawddwy. Roedd yna hefyd bostyn fflangellu, stocks a’r Feg Fawr a roddwyd am figyrnau i rwystro symudedd. Mae wal goncrid o amgylch Y Plas a godwyd gan Edmund Buckley.
Rydych yn awr yn Nghwm Maes Glase, mae Afon Cerist ar y dde ac yn y pellter mae pistyll Graig Wen ble cloddwyd am blwm. Hefyd mae rasus beicio lawr mynydd Redbull yn cael eu cynnal.
Mae Thomas Pennant yn ei lyfr Tours in Wales 1810 a pherthynas â pherchennog stad Dinas Mawddwy John Mytton yn disgrifio’r ardal “Roedd Dinas Mawddwy yn nodedig am graig las, y mae’r bugeiliaid yn ei wlychu, ac yn malu mewn morter, yna’n ffurfio peli, a defnydd hwnnw wrth farcio eu defaid. Mae hen ddihareb o’r tri pheth y mae Mawddwy yn dymuno eu hanfon allan o’r wlad yn dangos eu gwybodaeth hir amdano.
O Fowddu ddu ni ddaw, dim allan
A ellir ‘i rwystraw,
Ond tri pheth helaeth hylaw
Dyn atgas, NOD GLAS, a gwlaw.”
Ar Fedi 1af 2012, ymgasglodd tua 60 aelod o deulu’r Jonesiaid ar fferm Ty’n y Braich ar gyfer aduniad arbennig. Roedd hwn yn ddathliad teuluol UNIGRYW, ar gyfer disgynyddion teulu sy’n ymestyn yn ôl 1,000 o flynyddoedd. Mae coeden deulu, a gedwir mewn Beibl a’r Apocryphra a drosglwyddwyd, yn dangos eu bod wedi ffermio’r tir ers 1012. Daeth Ty’n y Braich i’r amlwg yn 2002 pan enillodd yr awdures Angharad Price Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol am ei nofel O! Tyn y Gorchudd!, wedi’i gyfieithu i’r Saesneg dan y teitl The Life of Rebecca Jones a nifer o ieithoedd eraill erbyn hyn hefyd. Ysbrydolwyd nofel Angharad gan fywyd ei hen fodryb, Rebecca Jones. Yn un o saith o blant, roedd ganddi bump o frodyr, gan gynnwys Robert, tad presennol perchennog y fferm. Yr oedd tri o’r brodyr yn ddall: Gruffudd, a aeth ymlaen i fod yn ficer o fri; William, cyfieithydd dawnus mewn braille; a Lewis, a oedd yn gweithio ym maes TG ym Mhrifysgol Nottingham. Ond yr hyn sy’n gwneud Ty’n y Braich mor arbennig yw’r ffaith bod hanes y teulu wedi’i gofnodi, yn dyddio’n ôl i gyfnod pan oedd y daliadau lleol yn denantiaid ac ychydig yn gallu darllen nac ysgrifennu. Mae’r ffermdy yn dal i gynnwys trysorfa o hen lyfrau, llawer yn Lladin. Mae’n gartref i draddodiad llenyddol a fyddai’n cael ei barhau gan feirdd Ty’n y Braich, John a Robert Jones.
Pistyll Maes Glase yw’r olygfa sy’n tynnu sylw ym mhen y cwm, gan ddisgyn i lawr sawl gris. Mae’r disgyniad tua 160 metr i gyd, sy’n golygu ei fod yr un mor dal o’r holl raeadrau eraill yng Nghymru. Mae ei gwymp sengl mwyaf yn 85 metr, a’r ail yn 34 metr. Mae hwn yn rhaeadr trawiadol iawn, dros ddwywaith yn uwch na Phistyll Rhaeadr Llanrhaeadr ym Mochnant sydd yn fwy adnabyddus. Mae Bwlch Siglen yn le creigiog dim ond ychydig lathenni o led ar y brig ac fe’i croeswyd o’r dwyrain i’r gorllewin gan y rhai a oedd yn teithio i ac o’r chwareli llechi yn Aberllefenni a Chorris. Roedd yn cael ei adnabod fel Siglen gan mai ardal gorsiog oherwydd yr amodau gwlyb a pheryglus yn aml oedd yn bodoli rhyngddi a Dinas Mawddwy. Tua hanner ffordd ar draws y Bwlch roedd carreg fawr wastad a byddai’r rhai a arhosai yno i gael anadl neu i edmygu’r golygfeydd godidog i’r ddau gwm yn cerfio eu henwau arni.
Nid yw fferm Cae Baty yn bodoli mwyach ac mae ei henw ar gyfer cae yn dal i gael ei ddefnyddio. O ddechrau’r 19eg ganrif roedd tyddynnod a oedd yn profi’n aneconomaidd i ddarparu ffermio cyson yn cael eu cyfuno mewn ymgais i gynyddu eu gallu i ddarparu bywoliaeth. Mae haneswyr cymdeithasol lleol wedi awgrymu mai tua 40 erw oedd y lleiafswm o dir oedd ei angen i oroesi yn ucheldir Mawddwy ac roedd hyn hyd yn oed yn dibynnu ar ddarnau helaeth o fynydd agored a ddefnyddir i fagu defaid. O’r pum fferm a leolir yn nyffryn Mynach uchaf, Cae Baty / Bati ar 30 erw oedd y lleiaf a’r gyntaf i gael ei chyfuno pan gafodd ei llyncu gan fferm Blaencwm yn y 1880au. Ystyrir i’r enw Cae Baty / Bati darddu o’r hen arfer o ddigroeni tir sef batin er mwyn ei losgi a’i ddefnyddio fel gwrtaith i’w roi ar y tir drachefn fel potash. Credir hefyd mae Cae Batin fyddai’r enw gwreiddiol. Mae’r ardal gyfagos wedi cael yr enw Cwm Glan Mynach a Blaen Cwm Mynach, (cwm mynachod), sydd wedi arwain at ddyfalu bod rhyw gysylltiad mynachaidd rywbryd yn y gorffennol â’r gornel anghysbell hon o fryniau de Meirionnydd. Nid oes fawr ddim tystiolaeth ddogfennol, os o gwbl, i gefnogi honiad o’r fath, nid ymddengys fod unrhyw dir yn yr ardal wedi ei roi i abatai fel Ystrad Marchell (Y Trallwng) a Cymer (Llanelltyd ger Dolgellau) yn ystod yr Oesoedd Canol, er iddynt wneud hynny gyda fferm laeth yng Ngherist yn y cwm nesaf. Roedd yn arferol, fodd bynnag, i dirfeddianwyr adael darnau bach o dir i’r Abatai yn gyfnewid am gael eu maddeuant, yn enwedig os oeddent wedi byw bywyd braidd yn ystyfnig. Un rhodd debygol o’r fath fyddai fferm fechan Cae Bati, fersiwn fyrrach o ‘Monastery Field’, ac mae cred gref bod yr enw Maesglase dros Bwlch Siglen yn dynodi cysylltiad Eglwysig pwysig. Roedd celloedd mynachaidd bach, ynysig lle’r oedd rhai mynachod yn byw bodolaeth dlawd heb fod yn foethus i’w cael yn aml mewn rhannau anghysbell o Gymru yn ystod yr Oesoedd Canol, ac mae traddodiad bob amser wedi honni bod adeilad o’r fath wedi’i leoli ym Mlaen Cwm Mynach. Mae dau safle arall o eglwysi cynnar, sydd bellach wedi hen ddiflannu, wedi’u cysylltu â’r ardal gyfagos, un yng Nghwm yr Eglwys ger Ty’n y Braich ac yng Nghefn Llandybo i’r De o Aberangell, lle’r oedd rhai olion i’w gweld yn glir o ddechrau’r 9fed ganrif.
Roedd chwarel Minllyn hefyd yn gweithio ar safle Cae Baty yr ochr arall i’r mynydd yng Nghwm Glanmynach, gan dynnu’r slabiau wedi’u naddu’n fras dros y llethr i lawr i’r prif weithfeydd ar dramffordd. Mae olion y drwm weindio dal i’w gweld ar safle Cae Baty yn ogystal â rhannau o’r trofwrdd ar y llwyfandir rhwng y ddwy chwarel. Mae’n ansicr pa gwmni osododd y cysylltiad hwn, ond cyn hyn defnyddiwyd y rhan fwyaf o’r llechi a dynnwyd o lefel Cae Baty ar gyfer adeiladu lleol. O gofio pwysigrwydd Cwm Glan Mynach yn yr Oesoedd Canol mae’n debygol bod y cloddiadau hyn ymhlith y cynharaf ym Mawddwy. Mae’n amheus a oedd cyfiawnhad dros y gost o adeiladu tramffordd rhwng y ddau safle. Roedd y slabiau garw a dynnwyd dros y mynydd wedi’u torri yn y siediau ‘uchaf’, gweithdrefn sy’n ymddangos yn llafurddwys ac aneffeithlon. Erbyn dechrau’r 1900au roedd unrhyw ddatblygiad pellach yng Nghae Baty yn cael ei ystyried yn aneconomaidd. Roedd yna obeithion cryf y byddai’r chwarel hon yn gynhyrchiol iawn gyda llechi o ansawdd da, ac roedd cynlluniau i’w chysylltu â gwaith Minllyn drwy dwnnel, ond mae’n ansicr a oedd y fenter hon wedi’i gwireddu mewn gwirionedd. Mae plannu coed helaeth wedi cuddio llawer o’r llethrau a’r unig fynediad yw’r pellter hir i fyny o fythynnod y chwarel ym Maescamlan. Er bod y siafftiau aer mwyaf peryglus wedi’u ffensio, nid y gweithfeydd helaeth yw’r lleoedd mwyaf diogel i’w harchwilio.
Datblygodd pentrefan Minllyn yn sgil adeiladu Plas Edmund Buckley ym mhentref Dinas Mawddwy pan symudwyd pobl i’r pentref newydd yma i wneud lle i blasdy newydd y diwydiannwr o Fanceinion yn yr 1860’au. Datblygodd Chwarel Minllyn rhwng 1793 – 1800 gan berchennog lleol ac yna datblygodd ymhellach gan Edmund Buckley. Chwarel lechi oedd hon ac yn enwog am slabiau llechi i wneud byrddau billiards, lle tân a lloriau yn ogystal a tai bach / urinals. Roedd melin wedi’i phweru gan ddŵr ar y llawr trin ger y pwll agored erbyn 1845 a hon oedd y felin integredig gyntaf yn y rhanbarth yn cynnwys 3 llif, 3 plaeniwr a pheiriannau trin llechi; disodlwyd yr olwyn ddŵr yn ddiweddarach gan olwyn pelton gyda stêm wrth gefn. O’r felin roedd llethr serth i lawr i’r dyffryn islaw gyda llethr byr pellach i Reilffordd Mawddwy. Caeodd y chwarel yn y diwedd ond fe’i hailagorwyd a’i hail-gyfarparu yn 1872 ac am gyfnod byr bu gweithlu o dros 100 yn cynhyrchu llechi’n flynyddol o 100 tunnell y flwyddyn. Adeiladwyd melin newydd fwy gyda 40 o beiriannau ar lawr y dyffryn. Erbyn 1894 roedd y gweithlu wedi gostwng i 20 gyda 550 tunnell o lechi yn cael eu cynhyrchu. Parhaodd cynhyrchiant i ddirywio nes i’r chwarel gau yn 1925, erbyn hynny dim ond 3 llif a 2 plaeniwr oedd. Mae’r sied fawr a siediau eraill yn dal i’w gweld ym Melin Meiiron – siop a chaffi a hefyd sied arall uwchben ym mherchnogaeth y Bwrdd Gwlan sydd yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer derbyn gwlan a’i brosesu o’r ardaloedd cyfagos. Dechreuoedd ffermwyr Meirionnydd fudiad cydweithredol i gynhyrchu carthenni ar ol y rhyfel ond daeth y gwaith hynny i ben a phrynwyd y siediau gan y perchnogion presennol. Tybir bod yna gaer o fath wedi bod rhwng pont Minllyn a’r chwarel o’r cenw Caer Bryn ond does dim cofnod ohoni nag unrhyw olion arwahan i gloddiau uchel o bridd a graean. Wrth adeiladu sylfeini’r gwesty Buckley Arms cafwyd hyd i dri neu bedwar o feddau yn cynnwys cistiau a gweddillion dynol. Codwyd y Gwesty ar gyfer twristiaid oes Fictoria oedd yn cael eu hannog i ymweld a’r chwarel ac i ddringo’r Aran a golygfeydd eraill yn yr ardal. Mae’r Gwesty wedi ei greu o goncrid yn y dull yn y fan a’r lle / in-situ, a adeiladwyd ym 1873 ar gyfer Syr Edmund Buckley yn unol â chynlluniau James Stephens o Fanceinion. Dywedir mai dyma’r adeilad concrit cyfnerth hynaf yn Ewrop a’r ail hynaf yn y byd. Mae’r Ysgol gynradd wedi ei lleoli yma ym Minllyn wedi iddi symud o gomin Minllyn uwchben Caer Bryn Foel Dre / Foel Dinas Yn 1876 pan roedd Edmund Buckley wedi mynd yn fethdalwr gorfodwyd iddo werthu ei ystad a bu protestio yn yr arwerthiant gan gominwyr tir Foel Dre ei fod wedi ffensio’r mynydd allan, plannu coed ac wedi perchenogi’r tir heb ganiatad. Ni fu’r protestiadau yn llwyddiannus. Mae’r goedwig ym mherchnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru / Llywodraeth Cymru.