Angen fersiwn argraffadwy o fap i ddilyn y daith gerdded hon?

Afon Dyfi

Mae hen draddodiad o botsian eog yma ac yn ol y son mae twnel i ben Foel Benddin o’r afon!

Tŷ Gwyn
Translated as white house

Dyma gartref cynnar John James un o ddirprwyon arolygwyr fu’n casglu tystiolaeth ac adrodd ar gyflwr addysg, diwylliant a moesau y Genedl Gymreig ac fe alwyd yr adroddiad oedd mewn cyfrol o lyfrau lliw glas yn Brad y Llyfrau Gleision. Adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru a gomisiynwyd gan senedd San Steffan oedd hwn. Cyflwynwyd yr Adroddiad terfynol yn 1847 a’i argraffu yn dair cyfrol yn Nhachwedd y flwyddyn honno.

Bu’r adroddiad gan Ralph Robert Wheeler Lingen, Jelinger Cookson Symons a Henry Robert Vaughan Johnson, tri Eglwyswr o Sais na siaradai Gymraeg, yn ysgytwad i Gymry’r cyfnod gan iddo daflu amheuaeth ar eu moesoldeb ac am natur gyfrin a gwrthryfelgar yr iaith Gymraeg. Yr ymateb yma o ‘frad’ gan y Sefydliad Seisnig oedd y rheswm i’r term ‘Brad y Llyfrau Gleision’ gael ei fathu. Yn ei ragymadrodd dywedir:

“The Welsh language is a vast drawback to Wales and a manifold barrier to the moral progress and commercial prosperity of the people.”

Dywedir fod un o deuluoedd lleol yn Ninas Mawddwy wedi poeri ar yr arch.

Mallwyd

Cysylltir Mallwyd ag un ysgolhaig yn benodol sef Dr. John Davies a wnaeth adael ei farc ar Fallwyd a Chymru. Dyma gartref y rheithor a chyfieithydd Beibl 1620 sydd wedi bod yn hanfodol i gynnal yr Iaith Gymraeg hyd heddiw. Bu’n gyfrifol hefyd am godi’r rheithordy, ymestyn Eglwys Mallwyd a chodi 3 pont (2 dros y Ddyfi ym Mallwyd a Minllyn ac un dros y Cleifion) Roedd yn ddisgybl i’r Esgob William Morgan a bu farw yn 1644 cyn i’r Rhyfel Cartref rhwng y Brenin a’r Senedd gychwyn.

Mae gwesty / tafarn The Brigands Inn yng nghanol y pentref, ac yn gyn dafarn y goets fawr rhwng Amwythig ac Aberystwyth a hefyd Dolgellau ble newidwyd y ceffylau, a’r teithiwr i gael seibiant. Mae wedi cael sawl enw dros y blynyddoedd gan gynnwys Cross Foxes, Peniarth Arms a The Bury.

Ble mae’r Cleifion a’r Ddyfi yn cyfarfod mae dolydd o’r enw Camlan lle roedd y goets fawr yn rhydio’r afon. Honnir bod Arthur wedi cynnal ei frwydr olaf yma ond stori wneud ydi hi mae’n debyg gan gyfoedion Iolo Morgannwg.

Minllyn

Datblygodd pentrefan Minllyn yn sgil adeiladu Plas Edmund Buckley ym mhentref Dinas Mawddwy pan symudwyd pobl i’r pentref newydd yma i wneud lle i blasdy newydd y diwydiannwr o Fanceinion yn yr 1860’au.

Datblygodd Chwarel Minllyn rhwng 1793 – 1800 gan berchennog lleol ac yna datblygodd ymhellach gan Edmund Buckley. Chwarel lechi oedd hon ac yn enwog am slabiau llechi i wneud byrddau billiards, lle tân a lloriau yn ogystal a tai bach / urinals. Roedd melin wedi’i phweru gan ddŵr ar y llawr trin ger y pwll agored erbyn 1845 a hon oedd y felin integredig gyntaf yn y rhanbarth yn cyflogi 3 llif, 3 plaeniwr a pheiriannau trin llechi; disodlwyd yr olwyn ddŵr yn ddiweddarach gan olwyn pelton gyda stêm wrth gefn. O’r felin roedd llethr serth i lawr i’r dyffryn islaw gyda llethr byr pellach i Reilffordd Mawddwy. Caeodd y chwarel yn y diwedd ond fe’i hailagorwyd a’i hail-gyfarparu yn 1872 ac am gyfnod byr bu gweithlu o dros 100 yn cynhyrchu llechi’n flynyddol o 100 tunnell y flwyddyn. Adeiladwyd melin newydd fwy gyda 40 o beiriannau ar lawr y dyffryn. Erbyn 1894 roedd y gweithlu wedi gostwng i 20 gyda 550 tunnell o lechi yn cael eu cynhyrchu.

 

Parhaodd cynhyrchiant i ddirywio nes i’r chwarel gau yn 1925, erbyn hynny dim ond 3 llif a 2 plaeniwr oedd. Mae’r sied fawr a siediau eraill yn dal i’w gweld ym Melin Meiiron – siop a chaffi a hefyd sied arall uwchben ym mherchnogaeth y Bwrdd Gwlan sydd yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer derbyn gwlan a’i brosesu o’r ardaloedd cyfagos. Dechreuoedd ffermwyr Meirionnydd fudiad cydweithredol i gynhyrchu carthenni ar ol y rhyfel ond daeth y gwaith hynny i ben a phrynwyd y siediau gan y perchnogion presennol.

Tybir bod yna gaer o fath wedi bod rhwng pont Minllyn a’r chwarel o’r cenw Caer Bryn ond does dim cofnod ohoni nag unrhyw olion arwahan i gloddiau uchel o bridd a graean. Wrth adeiladu sylfeini’r gwesty Buckley Arms cafwyd hyd i dri neu bedwar o feddau yn cynnwys cistiau a gweddillion dynol. Codwyd y Gwesty ar gyfer twristiaid oes Fictoria oedd yn cael eu hannog i ymweld a’r chwarel ac i ddringo’r Aran a golygfeydd eraill yn yr ardal. Mae’r Gwesty wedi ei greu o goncrid yn y fan a’r lle / in-situ, a adeiladwyd ym 1873 ar gyfer Syr Edmund Buckley yn unol â chynlluniau James Stephens o Fanceinion. Dywedir mai dyma’r adeilad concrit cyfnerth hynaf yn Ewrop a’r ail hynaf yn y byd.

Mae’r Ysgol gynradd wedi ei lleoli yma ym Minllyn wedi iddi symud o gomin Minllyn uwchben Caer Bryn

Yn 1876 pan roedd Edmund Buckley wedi mynd yn fethdalwr gorfodwyd iddo werthu ei ystad a bu protestio yn yr arwerthiant gan gominwyr tir Foel Dre ei fod wedi ffensio’r mynydd allan, plannu coed ac wedi perchenogi’r tir heb ganiatad. Ni fu’r protestiadau yn llwyddiannus. Mae’r goedwig ym mherchnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru / Llywodraeth Cymru

Murddun Gloddfa Goch (dan y llwybr) a Coed Cefn Coch (uwchben)

Roedd Robert Evans yn byw yma yn 1883 ac mae ei ddoniau canu penillion a chwarae’r ffidil wedi ei gofnodi yn y Cambrian News ble mae adroddiad yn son mai ef oedd y gorau yn yr Wyl Lenyddol / Eisteddfod a gynhaliwyd yn y sied ger yr orsaf ym mis Ionawr y flwyddyn honno.

Mae’r enw cloddfa yn awgrymu bod yna waith cloddio wedi bod yma ac o bosib mae chwarel ger Celyn Brithion oedd hi.