Angen fersiwn argraffadwy o fap i ddilyn y daith gerdded hon?
1.7 milltir / 45 munud
Mae’r llwybr yn hawdd ar wyneb da ac ychydig iawn o ddringo. Mae’n dilyn cylch o amgylch Dinas Mawddwy yn agos i Afon Dyfi ble cewch weld hen bont hardd Minllyn o’r 17Ganrif a safleoedd hanesyddol eraill. Mae dau gaffi a dwy dafarn ar y llwybr.
Gellir dilyn y llwybr hefyd gan ddefnyddio’r Map Arolwg Ordnans hwn.
Disgrifir y llwybr mewn cyfeiriad clocwedd ond mae’r llwybr hefyd wedi’i arwyddo i’r cyfeiriad arall.
Parciwch ym maes parcio Dinas Mawddwy, gyferbyn â thafarn y Llew Coch. Mae toiledau cyhoeddus wrth y fynedfa i’r maes parcio.
O’r maes parcio trowch i’r chwith, i lawr yr allt, am 200m i Gomin Dolybont ar y dde i chi, lle gwelwch bont droed dros yr afon Dyfi.
Yn y gorffennol, cynhelid ffeiriau ar gomin Dolybont, yn ogystal ag ar y Stryd Fawr. Heidiodd pobl yma o bob rhan o Ogledd a Chanolbarth Cymru i brynu, gwerthu, cyflogi ac ymladd! Roedd ffeiriau Dinas Mawddwy yn enwog am ymladd rhwng trigolion lleol a chymunedau cyfagos.
Byddai’r stryd ar gau bron i filltir y tu allan i’r pentref oherwydd nifer mynychwyr y ffair.
Cerddwch dros y bont droed ac ewch tuag at y ffermdy gwyn, o’r enw Tan y Bwlch, o’ch blaen.
Adeiladwyd ffermdy Tanybwlch yn 1838 gan y teulu Vaughan o Nannau ger Dolgellau. Mae’r dyddiad a’r llythrennau blaen RW ac AM V (Richard Williams Vaughan ac Anna Maria ei wraig) yn ymddangos ar y talcen blaen. Ym 1841 roedd gan y fferm 44 erw (17.8ha) o dir cysylltiedig.
Parhewch heibio’r ffermdy, gan gadw i’r dde, i ymuno â ffordd fynediad llydan y fferm. Parhewch ar hyd y ffordd heibio i faes carafanau Celyn Brithion, i’r A470.
Ar ochr arall yr A470 mae hen bont hardd Minllyn a Melin Meirion, caffi a siop a arferai fod yn safle gorsaf reilffordd Dinas Mawddwy.
Dywed traddodiad i Dr.John Davies, Rheithor Mallwyd, godi’r bont yn yr 17eg ganrif i hwyluso mynediad i’r Eglwys ym Mallwyd a masnach.
Roedd Rheilffordd Mawddwy yn cysylltu Dinas Mawddwy â chyffordd yng ngorsaf reilffordd ‘Cemaes Road’ Glantwymyn bellach ar ran o Reilffordd y Drenewydd a Machynlleth o Reilffyrdd y Cambrian. Er mai dim ond 6 milltir oedd yna roedd tair gorsaf yng Nghemaes, Aberangell a Mallwyd.
Agorodd y Rheilffordd ar 30ain o Fedi 1867 i wasanaethu’r chwareli llechi lleol. Daeth y rheilffordd i ben yn 1953.
Ar yr A470 trowch i’r dde ac ewch ymlaen i Westy’r Buckley Arms. Yn y Gwesty gallwch naill ai:
Cymerwch y ffordd i’r dde i lawr i Ddinas Mawddwy a dilynwch y Stryd Fawr yn ôl i’r maes parcio, gan fynd heibio Caffi Hen Siop a thafarn y Llew Coch.
Adeiladwyd y Buckley Arms ym 1873 ac yn ôl pob sôn hwn yw’r adeilad concrit cyfnerth hynaf yn Ewrop a’r ail hynaf yn y byd ar ôl adeilad yn Rwsia!
Adeiladwyd pentrefan Minllyn yn y 1860au pan symudwyd pobl yma gan Edmund Buckley, Arglwydd Mawddwy, i wneud lle i’w blasty ym mhentref Dinas Mawddwy lle mae’r maes parcio heddiw.